Math | cymuned, pentrefan |
---|---|
Poblogaeth | 297, 288 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2,204.79 ha |
Cyfesurynnau | 51.8814°N 4.4167°W |
Cod SYG | W04000490 |
Cod OS | SN340232 |
Cod post | SA33 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Samuel Kurtz (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Simon Hart (Ceidwadwr) |
Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Aber-nant[1] (hefyd: Abernant). Yn Saesneg tueddir i ddefnyddio'r sillafiad "Abernant",[2] a arferid gynt yn Gymraeg cyn y safoni a fu ar sillafiadau enwau lleoedd Cymru yn 1957.[3]
Saif Aber-nant ar ffordd gefn, saith milltir i'r gogledd-orllewin o dref Caerfyrddin.
Cysegrwyd yr eglwys i'r Santes Lucia, a cheir cofnod ati yn 1197 sy'n cyfeirio at gysylltiad a Phriordy Sant Teilyddog. Mae mynwent yr eglwys o faint anarferol, dros bedair erw a hanner, gyda nant yn rhedeg trwyddi. Gwaharddwyd claddu ar ochr ddwyreiniol y nant ers yr 19g pan gladdwyd cannoedd o bobl tref Caerfyrddin yno adeg y pla.
Gerllaw mae Castell Dwyran, lle cafwyd hyd i garreg goffa, yn dwyn yr arysgrif Ladin Memoria Voteporigis Protictoris a'r enw "Votecorigas" mewn llythrennau Ogam; yn ôl pob tebyg carreg fedd y Vortiporius (Gwrthefyr) sy'n cael ei gondemnio gan Gildas.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[4] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[5]